Amgueddfa Stori Caerdydd


Mae croeso i ymwelwyr o bob oed i ddod i rannu straeon, hel atgofion a darganfod mwy am Gaerdydd! Gallwch ddysgu sut i fod yn dditectif hanes a bod yn rhan o'ch treftadaeth eich hun gan helpu Hanesydd Heledd a Ditectif Dewi i ddod o hyd i’r cliwiau i ddatgelu’r darlun o’r oes a fu.

Mae rhywbeth newydd yn Stori Caerdydd drwy’r amser - ewch i wefan yr amgueddfa i ddysgu mwy am arddangosfeydd a digwyddiadau arbennig, diwrnodau hwyl i’r teulu a llawer mwy, neu dilynwch Stori Caerdydd ar Facebook a Twitter.

 

Dewch i ddarganfod sut y trawsnewidiwyd Caerdydd o’r dref farchnad fechan yn yr 1300au, i un o borthladdoedd mwyaf yr 1900au i’r brifddinas cŵl a
chosmopolitan ry'n ni'n ymfalchio ynddi heddiw.

Yn llawn straeon, gwrthrychau, ffotograffau a ffilm, mae Amgueddfa Stori Caerdydd yn adrodd hanes y brifddinas drwy leisiau a phrofiadau'r bobl sydd wedi byw a gweithio yma.

The Cardiff Story timeline monoliths © Redman Design.jpg

Oriau Agor:
Llun – Sul: 10:00 – 16:00